Ers 1928, mae YDCW wedi bod yn sefyll i fyny dros bobl a’r lleoedd Cymru wledig ac yn diogelu ein tirweddau unigryw. O amddiffyn mannau gwyllt rhag datblygiad dinistriol i greu cymunedau gwledig cynaliadwy, rydym yn angerddol ynglŷn â chreu cefn gwlad sy’n gweithio i bawb.
Ni yw’r unig sefydliad annibynnol sy’n sefyll i fyny dros Gymru wledig, ac mae ein haelodau yn y gymuned yn dwyn penderfynwyr i gyfrif ac yn sicrhau bod pobl leol yn cael dweud eu dweud. Bob dydd byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod harddwch eithriadol ein gwlad yn cael ei diogelu i’r genhedlaeth nesaf – a thu hwnt.
Mae ein cylchgrawn dwyieithog newydd Hiraeth yn cael ei gynhyrchu ddwywaith y flwyddyn ac mae am ddim i bob aelod.
Gyda 13 o ganghennau YDCW ledled Cymru, mae’n siŵr y bydd rhywbeth cyffrous yn eich ardal chi i gymryd rhan ynddo. Mae ein canghennau yn trefnu digwyddiadau lleol, yn ymgyrchu yn erbyn cynllunio ansensitif, ac yn codi arian ar gyfer ein gwaith ehangach. Ymunwch â’ch cangen agosaf i gefnogi’ch cymuned leol ac amddiffyn eich tirweddau unigryw.