Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy!

Gan John Roberts, Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae’n swyddogol! Mae’r tri Awdurdod Unedol sy’n rhan o’n AHNE – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam – bellach wedi cytuno’n ffurfiol i dderbyn y cynnig ail-frandio y cytunodd Cymdeithas Genedlaethol AHNEoedd arno fis Tachwedd diwethaf. Bellach bydd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei adnabod fel Tirwedd Genedlaethol a bydd ei logo newydd – sy’n cynrychioli Moel Famau ac i’w weld yma – bellach yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar arwyddion, deunydd hyrwyddo ac ar bob gohebiaeth gan aelodau’r tîm.

Bu teimlad ers amser maith nad yw’r acronym AHNE yn cael ei ddeall yn eang ac, er y bydd yr ardaloedd perthnasol yn dal i fod yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol mewn cyd-destun cyfreithiol, bydd brandio’r Dirwedd Genedlaethol yn atseinio’n gryfach o lawer â’r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd yr holl ardaloedd a ddynodir fel hyn yn defnyddio thema gyffredin yn eu brandio a, p’un a ydych yn Nyffryn Gwy, Gŵyr, Cwm Dedham, Gogledd y Pennines neu unrhyw un o’r 30 neu fwy o Dirweddau Cenedlaethol eraill yng Nghymru a Lloegr, byddwch yn dod i gydnabod y thema gyffredin yn gyflym. Un anfantais yn lleol yw’r amseriad.

Gyda’r prif broses ymgynghori ar Barc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i drefnu ar gyfer yr hydref, mae’n ddigon posibl y bydd yr ymarfer ail-frandio yn achosi rhywfaint o ddryswch, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd angen mynd i’r afael ag ef yn ofalus.

[instagram-feed feed=1]