Caru cefn gwlad ac eisiau ei hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi, eich sefydliad cymunedol neu fusnes helpu i ddiogelu, hyrwyddo ac eirioli dros Gefn Gwlad Cymru:

 

Ymunwch â Ni

Gallwch ymuno ag YDCW fel unigolyn, fel cwpl, teulu, ysgol, busnes neu gyngor cymuned. Drwy ymuno ag YDCW rydych yn dod yn rhan o’r frwydr i hyrwyddo ac amddiffyn Cefn Gwlad Cymru.

Ysgrifennwch am gefn gwlad

Ydych chi’n awdur brwd, yn arbenigwr yn eich maes, yn rhedeg busnes bach gwledig sy’n caru bod yng nghefn gwlad, neu â stori i’w hadrodd?

Mae YDCW bob amser yn chwilio am gyfranwyr i’n cylchgrawn, erthyglau ar gyfer ein gwefan ac i’n helpu i ysgrifennu adroddiadau. Os gallwch chi helpu, cysylltwch â ni!

Byddwch yn llais cefn gwlad

Hoffech chi fod yn llefarydd dros gefn gwlad? os ydych chi’n arbenigwr yn eich maes neu os oes gennych chi stori i’w hadrodd am fywyd yng nghefn gwlad, neu gefn gwlad ei hun, fe allech chi ddod yn un o’n llefarwyr.

Byddech yn ein helpu i ledaenu ein neges, dweud eich stori wrthym, neu gyfrannu at ein podlediad.

Gellir rhoi unrhyw hyfforddiant sydd ei angen, cysylltwch â’n tîm cyfathrebu.