Tirweddau

Tirweddau yw “ffrwyth y rhyngweithio rhwng cydrannau naturiol a diwylliannol ein hamgylchedd, a sut mae pobl yn eu deall a’u profi.”
Mae tirweddau yn cwmpasu nid yn unig harddwch ac amrywiaeth ein hamgylchedd, ond hefyd agweddau naturiol a diwylliannol, sy’n cynnwys daeareg, bywyd gwyllt, defnydd tir ac elfennau a nodweddion hanesyddol. Tirweddau yw ein cefn gwlad.

Wedi'i Ffurfio Gan Weithredu

Caiff tirweddau eu siapio gan weithredoedd natur a phobl dros amser, drwy ryngweithio â’r amgylchedd. Mae’r amrywiaeth anhygoel o elfennau naturiol, hanesyddol a diwylliannol yn cyfrannu at gyfoeth ac enwogrwydd eang ein tirweddau yng Nghymru. Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu gwarchod a’u hamddiffyn ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol rhag effeithiau andwyol yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, yn ogystal â defnydd tir a datblygiadau amhriodol.

Rydyn ni'n caru ein tirweddau

O’n mynyddoedd, ucheldiroedd, rhostiroedd a chefn gwlad bryniog i forluniau ein harfordir syfrdanol a pharcdiroedd trefol a gwledig – rydyn ni’n caru ein tirweddau. Maen nhw’n brawf o’n hanes, yn swyno’r synhwyrau, yn cynhyrchu ein bwyd, yn cynnal ein poblogaethau gwledig, ac yn denu ymwelwyr i’n heconomi wledig. Nid dim ond ar gyfer ‘ni’ ond i bawb ac i’r dyfodol. Ac mae gan ein tirweddau ran hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ddal carbon, glanhau’r aer, helpu i arafu llifogydd a darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt.

Iaith Tirweddau

Iaith o dirweddau yw’r iaith Gymraeg – y lleoedd, y bobl, yr hanes, y defnydd tir a’r nodweddion naturiol sy’n rhoi’r manylion, y sylwedd, yr ystyr a’r cyd-destun iddi. Heb dirwedd, heb ryw fath o barhad, mae’r iaith ei hun mewn perygl difrifol o ymddatod o’i angorfa – y creigiau a’r llethrau, troadau’r afonydd, yr adeiladau sy’n ffurfio ei gwead hynafol, yr elfennau sy’n ddigon parhaol i haeddu enw.

Dyfodol Cadarnhaol

Rydyn ni eisiau gweld cefn gwlad sy’n ffynnu: tirweddau sy’n fwy gwydn i newid hinsawdd drwy blannu mwy o berthi a choed; yn fwy addas i’r fioamrywiaeth sydd ei hangen i alluogi bywyd ei hun; a thirwedd i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol lochesi ynddi, heb ei chreithio gan ddiwydiant a datblygiadau ansensitif neu amhriodol. Ac rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosib gael mynediad at y tirweddau hyn ac i fwynhau’r buddion i’n lles.

Ers bron i ganrif, mae YCDW wedi gweithio ac yn parhau i weithio’n genedlaethol ac yn lleol am ddyfodol positif i’n holl dirweddau