Awyr Dywyll

Mae llygredd golau yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn ddibwys, serch hynny, nid yw ei effeithiau ar anifeiliaid y nos, ac yn wir, bodau dynol, yn gwbl hysbys ar hyn o bryd. Wrth fod yn ystyriol o bryderon pobl ynglŷn â diogelwch o ran goleuadau stryd, mae YDCW yn poeni am y niwed posib y gall llygredd golau ei gael ar fywyd gwyllt.

Golygfeydd hudolus

Awyr dywyll yw un o’r golygfeydd mwyaf hudol y gall cefn gwlad ei chynnig. Nid yn unig y mae llygredd golau yn cyfyngu ar ein gallu i weld yr awyr ond mae hefyd yn tarfu ar batrymau naturiol bywyd gwyllt. Rydyn ni eisiau adfer ein hawyr dywyll.

Mae YDCW yn cefnogi cyflwyno gwarchodfeydd awyr dywyll newydd ledled Cymru, nid mewn ardaloedd gwarchodedig yn unig. Mae rhai o’r ymgyrchoedd y mae YDCW yn ymwneud â nhw yn ardal Llanandras a chynlluniau AHNE Pen Llŷn.

Mae Cymru yn gartref i noddfa awyr dywyll gyntaf Ewrop!

Mae YDCW yn croesawu ac yn llongyfarch Ynys Enlli, ynys oddi ar Ben Llŷn, am fod y safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (Chwefror 2023). Mae gan y statws hwn feini prawf llawer llymach na gwarchodfeydd awyr dywyll, sy’n golygu bod yr awyr dywyll yno ymhlith y tywyllaf yn Ewrop. Gobeithiwn y bydd y statws hwn yn tanlinellu proffil yr ynys, a gobeithio y daw â mwy o ymwybyddiaeth i fuddion awyr dywyll.