Caiff newid hinsawdd ei ystyried bellach fel y bygythiad unigol mwyaf i ddynoliaeth ond caiff ei ‘esgusodi’ yn aml gan farn sydd heb gael ei deall neu sy’n cael ei chyfleu yn wael fod newid hinsawdd wedi bod gyda ni erioed. Serch hynny, ers y Chwyldro Diwydiannol, mae cyfradd y cynnydd yn nhymheredd hinsawdd byd-eang wedi codi ar gyflymder digynsail. O ganlyniad, gwelwn ar hyn o bryd systemau tywydd mwy eithafol yn datblygu ar draws y blaned, yn aml dros gyfnodau byr, anghyson. Mae stormydd a sychder unwaith-mewn-canrif yn digwydd unwaith bob deg mlynedd, ac mae’r record ar gyfer tymereddau uchaf, glawiad uchaf a sychder hiraf yn parhau i ostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Er mai dim ond tua 2% y mae’r DU yn ei gyfrannu at allyriadau byd-eang, mae’n bwysig bod y DU yn symud oddi wrth danwydd ffosil gan gynyddu diogelwch ynni a hunangynhaliaeth, yn ogystal â gweithredu fel esiampl i’r byd ehangach. Mae YDCW yn ystyried yr effeithiau, y newidiadau a’r atebion posibl i arafu, stopio neu wrthdroi newid hinsawdd wrth ddatblygu polisi ar gyfer sectorau penodol perthnasol, fel ynni. Mae’r broses o symud oddi wrth danwydd ffosil yn galluogi Cymru a’r DU i ddod yn carbon niwtral ac i ddiogelu ffynonellau ynni ar lefel y DU.
Bydd YDCW yn monitro cynnydd ac yn cefnogi’r broses o gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net, ond bydd hefyd yn effro i unrhyw gynlluniau ar gyfer mathau o gynhyrchu pŵer, lleihau neu liniaru carbon a dad-ddofi tir y mae’n credu y byddai’n amhriodol ac yn niweidiol i agweddau o gefn gwlad a chymunedau Cymru y mae’n ceisio eu hamddiffyn.
Mae’n hanfodol felly bod Cymru yn parhau i fynd ar drywydd polisïau cyfoes (a datblygu rhai newydd) i leihau a lliniaru allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr.
Mae YDCW yn deall ac yn derbyn yr angen hwn. Mae’n sail i’n holl bolisïau, yn enwedig y rhai ar ynni. Rydyn ni’n cymeradwyo’r wyddoniaeth ac yn cefnogi’r egwyddor o addasu i newid hinsawdd ond mae gennym amheuon am rai agweddau o’r polisi ynni sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ei rifyn cyfredol o Cymru’r Dyfodol, sy’n gofyn am adolygiad radical gan ei fod yn hen ffasiwn ac yn methu â chydnabod y potensial a gynigir ar hyn o bryd gan wynt ar y môr.
[instagram-feed feed=1]