Solar Power

Solar power is now one of the cheapest forms of electricity generation, and being carbon free at the point of generation, forms  a significant component in the path to net zero. CPRW believes the ideal location for solar panels is mounted on buildings in non-intrusive locations – providing the power directly where it is needed, on homes for example.

Parciau Solar

Serch hynny, gall “parciau solar” (araeau paneli solar ffotofoltäig mawr) amharu’n weledol, fod yn niweidiol i’r amgylchedd a lleihau tir ffermio sydd dirfawr ei angen.

Lleoliadau priodol

Lle bydd y cynlluniau masnachol mawr hyn o araeau solar yn cael eu cynllunio, dim ond os gallan nhw fodloni amodau cynllunio sy’n fanwl ac yn cael eu cymhwyso’n llym, eu bod mewn lleoliadau priodol, nad ydyn nhw’n effeithio’n negyddol ar fioamrywiaeth ardal ac nad ydyn nhw mewn ardaloedd dynodedig gwarchodedig y bydd YDCW yn eu cefnogi.

Gwarchod tir amaethyddol

I’r gwrthwyneb, pan fydd cynlluniau yn cael eu hargymell ar dir amaethyddol sydd heb ei ddatblygu mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n drefol, mewn ardal agored o gefn gwlad neu ardal ddynodedig warchodedig, byddwn yn gwrthwynebu datblygiad o’r fath.

[instagram-feed feed=1]