From Vyrnwy to Llyn y Fan Fach Wales has some majestic and picturesque natural and man-made lakes and reservoirs. Whether formed by glaciers and rivers or diggers and dams, Wales is dotted with water bodies small and large. Some mired in controversy and others lauded as sights to behold, they are our water sources, play areas, home to a huge array of biodiversity, and ingrained in our psyche.
Yn wahanol i Loegr, lle bo’r rhan fwyaf o’u dŵr yfed yn cael ei storio mewn dyfrhaenau tanddaearol, mae 80-90 % o gyflenwad Cymru i’w ganfod uwchben y ddaear mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr. Mae hyn yn golygu, wrth i hafau fynd yn gynhesach ac yn sychach, mae ein hadnoddau dŵr mewn mwy o berygl o anweddu.
Drwy edrych ar ddŵr yn holistig ar lefel dalgylchoedd, mae YDCW yn ymgyrchu dros amddiffyn llednentydd sy’n bwydo ein llynnoedd, cronfeydd dŵr a phyllau, yn ogystal â’r gorlif ac allbynnau eraill o’r cyrff dŵr hyn sy’n bwydo ein hafonydd.
Hoffai YDCW weld mwy o lynnoedd a chronfeydd dŵr yn cael eu hagor i’r cyhoedd ar gyfer hamdden a physgota. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid Cyswllt Amgylchedd Cymru fel Canŵ Cymru, Y Gymdeithas Mannau Agored, WWF, Ymddiriedolaethau Natur Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn ogystal â mudiadau eraill fel Fish Legal er mwyn i hyn gael ei wneud yn sensitif gyda’r ecosystemau a’r amgylchedd.
[instagram-feed feed=1]