Wales has more rivers than you can shake the proverbial stick at, as illustrated in the below map created by Dafydd Elfryn (Permission given to use the image).
Mae afonydd yn gartref i fywyd dirifedi, maen nhw’n maethu’r tir, ac yn rhoi llefydd i ni nofio, pysgota a chwarae. Yn fras, mae ein hafonydd yn werthfawr. Serch hynny, pan feddyliwn am afonydd, mae angen edrych ar y darlun ehangach, gan gymryd agwedd holistig at y dalgylch cyfan – o’u ffynonellau yn yr ucheldir i’w taith i’r môr yn y pen draw.
Ar draws Cymru, mae nifer o’n hafonydd dan fygythiad. Mae pwysau i gynhyrchu bwyd rhatach drwy ffurfiau dwys o ffermio, ynghyd â’n tywydd gwlypach, yn aml yn arwain at fwy o ddŵr ffo sy’n gwneud ei ffordd i’n hafonydd a’n dyfrffyrdd. Yn ddiweddar, cafodd Welsh Water / Dwr Cymru ei enwi gan y rheoleiddiwr OFWAT fel un o’r chwe llygrydd gwaethaf yn y DU (2023).
Bydd YDCW yn parhau i weithio gyda mudiadau fel Friends of the Upper Wye, Afonydd Cymru, Canŵ Cymru, Fish Legal a’n partneriaid dros y ffin, ac mae YDCW yn ceisio cael amddiffynfeydd gwell ar gyfer ein hafonydd i sicrhau y gall bywyd oroesi a ffynnu yn ein dyfrffyrdd.
[instagram-feed feed=1]