Trafnidiaeth Gynaliadwy

I wirioneddol fodloni’r heriau o symud tuag at gymunedau cynaliadwy ffyniannus sydd hefyd yn cyd-fynd â brwydro yn erbyn newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, mae angen i’r cymunedau hynny hefyd gael trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat sy’n dda, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.

Metro

Mae YDCW yn croesawu nodau Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru a’i rwydwaith Metro. Serch hynny, mae’r cynlluniau mawr hyn, yn anochel, yn dueddol o ganolbwyntio ar ardaloedd metropolitan a lled-wledig, lle mae mwy o ddwysedd poblogaeth – mae hynny’n rhesymegol. Ond ni allwn, ac ni ddylem, anwybyddu sefyllfa’r Gymru wledig a chymunedau gwledig.

Cludiant Dibynadwy

Mae cael rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus da a dibynadwy sy’n cysylltu cymunedau gwledig a hybiau trafnidiaeth rhanbarthol yn hanfodol i gymunedau ffynnu, heb sôn am yr effaith bositif ychwanegol y byddai hyn yn ei chael ar dwristiaeth yn yr ardaloedd hyn a mynediad y cyhoedd at gefn gwlad.

Mae’n bryder bod rhai Awdurdodau Lleol ar draws Cymru wedi dechrau torri nôl ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r pwysau ariannol ddechrau gwasgu.

Teithio Llesol

Yn 2023 ymunodd YDCW â Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Deithio Llesol, a byddwn yn gweithio gyda Ramblers Cymru, Y Gymdeithas Mannau Agored a Sustrans i gefnogi creu mwy o lwybrau teithio llesol i alluogi pobl i chwilio am ffyrdd iachach o deithio o amgylch eu cymuned.

Mae YDCW hefyd yn cydnabod nad yw teithio llesol mewn lleoliadau gwledig mor hygyrch neu gyfleus o bosib ag ardaloedd lled-wledig neu drefol, ond mae’n bwysig cynnwys ardaloedd gwledig mewn trafodaethau am lwybrau teithio llesol oherwydd gall y rhain helpu potensial twristiaeth mewn ardaloedd.

Bydd YDCW yn parhau i ymgyrchu am gynnydd mewn trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy.

Serch hynny, mae YDCW yn gwrthwynebu cynlluniau mawr, newydd ar y ffyrdd sy’n ymyrryd â’n tir fferm ac yn niweidio tirweddau allweddol fel Gwastadeddau Gwent a Bro Morgannwg. Wedi dweud hynny, i wella symudedd, mae angen mwy o drafnidiaeth gyhoeddus hyblyg a dibynadwy a chyfleusterau seiclo a cherdded apelgar. Er enghraifft, mae angen ailfywiogi Adroddiad Burns ar drafnidiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru.