Cymunedau Cynaliadwy

Cymunedau cynaliadwy yw cymunedau sy’n gweithio gyda’r amgylchedd a natur, yn defnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy da, cael trafnidiaeth gyhoeddus integredig i’w cysylltu â’r gymuned ehangach, llwybrau teithio llesol i bobl eu defnyddio ar gyfer cymudo, hamdden a thwristiaeth, nifer o fannau gwyrdd agored i bobl eu mwynhau, ac sydd â chysylltedd da â’r byd ehangach i alluogi gweithio o bell, cynhwysiant cymdeithasol a datblygu economi sy’n seiliedig ar delathrebu.

Yn ei hanfod, mae YDCW o’r farn bod cymunedau cynaliadwy yn ymgorffori holl elfennau cynllunio da, tai cynaliadwy / fforddiadwy, cysylltedd a thrafnidiaeth gynaliadwy. Cymuned sy’n gweithio ac yn ffynnu i bawb.

Tai Fforddiadwy / Cynaliadwy

Mae’r Gymru wledig, yn enwedig, yn dioddef o brinder tai. Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi gwaethygu yn sgil y cynnydd mewn cartrefi Airbnb a chartrefi gwyliau eraill, sydd mewn rhai achosion wedi cael effaith enbyd ar gynaliadwyedd y gymuned ei hun. O ardaloedd arfordirol Pen Llŷn i Sir Benfro, mae cymunedau bach wedi troi’n drefi marw hanner y flwyddyn ac yn orlawn gweddill yr amser. Mae hyn yn effeithio’n fawr ar yr ymdeimlad o gymuned a chydlyniant cymunedol a bod trigolion lleol yn cael eu prisio allan.

Mae YDCW yn gefnogol o gamau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i gynyddu treth gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi. Serch hynny, mae angen gweithredu hyn mewn ffordd synhwyrol i sicrhau nad yw twristiaeth yn cael ei mygu’n llwyr gan ei bod yn rhan bwysig o’r economïau lleol a chenedlaethol.

Mwy o Gartrefi

Mae angen tai mwy fforddiadwy, cynaliadwy hefyd, yn enwedig mewn rhai ardaloedd lled-drefol, ond mae angen gwneud hyn mewn ffordd gynaliadwy, synhwyrol sy’n gweithio gyda’r aneddiadau presennol a’r amgylchedd o’i gwmpas. Mae YDCW o’r farn y dylai Safon Tai Cymru fynd ymhellach i gynnwys inswleiddio gwell a chynhyrchu a storio ynni mewn adeiladau newydd. Rhaid i ni fod yn fwy clyfar wrth adeiladu!

Rydyn ni’n ymgyrchu’n gryf dros ddefnyddio safleoedd tir llwyd cyn ystyried unrhyw beth yng nghefn gwlad agored, yn enwedig y llain las. Gweler Cynllunio.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol ac yn annog y llywodraeth i greu llefydd bywiog sydd wedi’u cynllunio’n dda y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw – gyda’r cartrefi sydd eu hangen ar bobl, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a mynediad hawdd at waith, hamdden a natur.