Mae byd natur Cymru mewn argyfwng, gyda llawer o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu a chynefinoedd yn methu â wynebu bygythiadau’r argyfwng hinsawdd – mae angen gweithredu ar frys.

Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy dros ffermwyr a byd natur yn ein Parciau a’n Tirweddau Cenedlaethol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae angen eich help chi arnom ni.

Ni all y Llywodraeth fforddio colli’r cyfle euraidd hwn i gefnogi arferion ffermio sy’n gyfeillgar i natur a helpu i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Dylai Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol fod yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â hyn, ond nid yw cynlluniau amaethyddiaeth blaenorol Llywodraeth Cymru wedi sicrhau unrhyw ganlyniadau gwell y tu mewn i’r ardaloedd gwarchodedig hyn na’r tu allan.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn creu cynllun cymorth ariannol newydd i ffermwyr, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC), a rhaid inni sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer byd natur Cymru.

A wnewch ymuno â ni i fynnu gwell dyfodol i fywyd gwyllt a sicrhau bod yr CFC yn gwobrwyo ac yn cymell ffermio sy’n gyfeillgar i natur mewn Parciau Cenedlaethol?

Ysgrifennwch eich llythyr heddiw