Mae cangen elusennol genedlaethol sy’n ymroddedig i warchod tirweddau unigryw Cymru a hyrwyddo’r ffordd wledig o fyw, wedi cyhoeddi enillydd Gwobr Cymru Wledig 2023.

Mae YDCW Sir Gaernarfon yn cyflwyno Gwobr Cymru Wledig i Blas Glyn-y-Weddw, yr Oriel Gelf yn Llanbedrog. Gwahoddir y cyhoedd i fynychu’r seremoni wobrwyo ddydd Iau 16 Tachwedd am 12:30pm. Mae’r wobr yn cael ei rhoi ar gyfer y Caffi Urchin newydd.

Mae Gwobrau Cymru Wledig wedi bod yn rhedeg ers dros 30 mlynedd

ac mae’n tynnu sylw at fusnesau sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned ac yn arwain y ffordd ar ddulliau amgylcheddol a chadwraeth.

Dywedodd Frances Llewellyn, Cadeirydd Cangen YDCW Sir Gaernarfon:

Rydym yn siŵr y bydd y Caffi Urchin hwn yn plesio pawb sy’n ei weld, a phawb sy’n ei ddefnyddio, a dyna pam rydym yn rhoi ein Gwobr Cymru Wledig iddo. Mae’r wobr hon hefyd yn deyrnged i weledigaeth a dewrder Ymddiriedolwyr y Plas wrth fabwysiadu’r cynllun arloesol a llwyddiannus hwn.”

Bydd y seremoni yn dechrau gyda chinio ysgafn am 12:30pm a chyflwynir y wobr i Gwyn Jones, y Cyfarwyddwr, a’i staff o Blas Glyn-y-Weddw am 1.30yp. Bydd y penseiri hefyd wrth law i ddweud ychydig eiriau ac ateb cwestiynau.

Bydd cyfle i weld yr arddangosfa gelf gyfredol ac am dro ar lwybrau coetir yr Allt a enillodd, ynghyd ag amffitheatr newydd, Wobr Cymru Wledig ddeng mlynedd yn ôl.”

Dywedodd Jonty Colchester, Cadeirydd YDCW: Rydym wrth ein bodd ag enillydd Sir Gaernarfon eleni. Mae Plas Glyn-y-Weddw yn plethu celf, natur a diwylliant yn ddi-dor ar draws ei ystod eang o weithgareddau ac mae’n ganolfan dreftadaeth hollbwysig o bwysigrwydd cenedlaethol. Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Gwobr Cymru Wledig 2023 i’r busnes ac yn dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Sefydlwyd YDCW ym 1928 gan ei gwneud yr elusen wledig hynaf yng Nghymru. Mae’r elusen yn frwd dros greu cefn gwlad sy’n gweithio i bawb, sy’n anelu at warchod mannau gwyllt ar gyfer y genhedlaeth nesaf a galluogi cymuned wledig gynaliadwy i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i cprw.org.uk.