Mynediad cyhoeddus neu hawl i grwydro oedd un o egwyddorion sylfaenol YDCW a ddatblygodd at greu Parciau Cenedlaethol Cymru ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ers hynny, gwelwyd cyflwyno deddfwriaeth fel Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a’r gydnabyddiaeth ehangach bod mynd allan i fyd natur yn fuddiol i iechyd corfforol a meddyliol pobl.
Roedd dyfodiad COVID, cyfnodau clo a chadw pellter cymdeithasol yn tanlinellu pwysigrwydd mynediad i’n cefn gwlad, sy’n cael eu galw’n mannau gwyrdd a glas, ar gyfer lles a buddion iechyd meddwl.
Mae YDCW yn cefnogi’n gryf yr hawl i gael mynediad i’n cefn gwlad ac yn gefnogol o ‘deithio llesol’. Yn 2023, fe wnaethom ymuno â Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Deithiol Llesol a byddwn yn gweithio gyda Ramblers Cymru, Y Gymdeithas Mannau Agored a Sustrans i gefnogi creu mwy o lwybrau teithio llesol i alluogi pobl i chwilio am ffyrdd iachach o deithio o amgylch eu cymuned.
Mae YDCW hefyd yn cydnabod nad yw teithio llesol mewn lleoliadau gwledig mor hygyrch neu gyfleus o bosib ag ardaloedd lled-wledig neu drefol, ond mae’n bwysig cynnwys ardaloedd gwledig mewn trafodaethau am lwybrau teithio llesol oherwydd gall y rhain helpu potensial twristiaeth mewn ardaloedd.
Mae YDCW wrthi’n cefnogi creu Parciau Cenedlaethol newydd ac yn ymgyrchu gyda Chymdeithas Mynyddoedd Cambria i sicrhau AHNE a Pharc Cenedlaethol ym Mryniau Clwyd yng Ngogledd Cymru yn y pen draw.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n ffrindiau a chyd aelodau Cysywllt Amgylchedd Cymru fel Ramblers Cymru, Cyngor Mynydda Cymru ac Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol i gefnogi mynediad pellach at gefn gwlad, gwella hawliau tramwy cerdded a gwneud cefn gwlad mor hygyrch â phosib.
Mae YDCW hefyd yn gweithio gyda’r sector ffermio i atgoffa’r cyhoedd i ddilyn y cod cefn gwlad, trin y tir gyda pharch ac i beidio â pheryglu da byw neu ddifrodi cnydau. Mae YDCW yn rhan o adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Cod Cefn Gwlad.
[instagram-feed feed=1]