Bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fywyd a geir ar y ddaear ac mae’n cynnwys pob rhywogaeth o blanhigion, anifeiliaid ac organebau byw eraill, eu helaethrwydd a’u hamrywiaeth genetig. P’un a ydych yn cyfeirio ato fel Bioamrywiaeth neu natur, mae ganddo ei werth cynhenid ei hun, sy’n cyfrannu at lesiant cymdeithas, ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae ein bioamrywiaeth hefyd yn ffordd o fesur iechyd systemau byw naturiol a llwyddiant polisïau rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Cydrannau Ecosystemau

Mae’r term ‘geoamrywiaeth’ yn disgrifio’r amrywiaeth o greigiau, ffosilau, mwynau, prosesau arwyneb y ddaear (geomorffig), tirffurfiau a phriddoedd sy’n pennu cymeriad ac yn sail i’n tirwedd ac sy’n cefnogi darpariaeth nifer o wasanaethau ecosystemau.

Gyda’i gilydd, mae bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn gydrannau allweddol o ecosystemau iach. Gall unrhyw golled neu ddifrod i’r naill neu’r llall effeithio ar y ffordd y mae ecosystemau’n gweithredu a’u gallu i addasu i newid. Maen nhw’n rheoli ein hinsawdd, yn rhoi ocsigen i ni ei anadlu, ein bwyd a dŵr glân; maen nhw’n cynnal pob bywyd, gan gynnwys ein bywyd ni ac yn cynnal y byd fel rydyn ni’n ei adnabod. Maen nhw hefyd yn cynnwys y gallu genetig i addasu neu esblygu wrth ymateb i amodau amgylcheddol newidiol. Gall gwarchod a gwella bioamrywiaeth adeiladu neu gynnal gwytnwch ecosystemau a gwella ansawdd yr amgylchedd ehangach a diogelwch a sefydlogrwydd bywyd dynol yn y pen draw. Mewn cyferbyniad, mae colli bioamrywiaeth yn gwneud ecosystemau – a bodau dynol yn y pen draw – yn fregus ac yn agored i newid.

Dirywio bioamrywiaeth

Y DU yw un o’r gwledydd sydd wedi colli mwy o fyd natur nag unman arall yn y byd, gyda thua hanner o’r bioamrywiaeth cyn-ddynol yn weddill, llawer is na’r cyfartaledd byd-eang o 75% a’r trothwy diogel o 90%. Er ei bod yn hanfodol ein bod yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ddramatig, ni fydd hynny’n ddigon ynddo’i hun. Mae angen i ni gael dull mwy holistig sy’n deall y rôl y gall bioamrywiaeth ei chwarae o ran gweithredu ar newid hinsawdd. Mae’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfyngau hinsawdd yn sbarduno ei gilydd. Mae bioamrywiaeth yn sefydlogi hinsawdd, gan fod planhigion a choed yn cadw ac yn storio nwyon tŷ gwydr. Ond amcangyfrifir y gallai 1 ymhob 6 o rywogaethau ddiflannu’n fyd-eang oherwydd newid hinsawdd.

Argyfwng Hinsawdd a Bioamrywiaeth

Mae YDCW yn derbyn bod Hinsawdd a Bioamrywiaeth yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae’r ddau mewn argyfwng. Nid yw mynd i’r afael â’r naill heb y llall yn gwneud llawer o synnwyr ac eto, mae’r rhai sy’n llunio polisïau  (a hyd yn oed rhai gwyddonwyr) yn tueddu i anghofio hyn, gan arwain at bolisïau lliniaru ac addasu hinsawdd sy’n aml yn methu ag ystyried bioamrywiaeth yn ôl Sefydliad Grantham ar newid hinsawdd a’r amgylchedd (Coleg Imperial, Llundain).

Ein Cenhadaeth I Ddiogelu Cefn Gwlad Cymru

Fel y rhan fwyaf o lywodraethau ledled y byd, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan a derbyn bod yna argyfwng Bioamrywiaeth ac Argyfwng Natur ochr yn ochr â’r Argyfwng Hinsawdd. Mae hyn yn cyfiawnhau trywydd YDCW o gael polisi Bioamrywiaeth sydd wedi’i ddiffinio’n glir fel rhan allweddol o’n cenhadaeth i warchod cefn gwlad Cymru. Wedi’r cyfan, mae gan fiosffer iach rolau pwysig i’w chwarae wrth liniaru newid hinsawdd ac iechyd a lles dynol.