Energy Infrastructure

The infrastructure needed to connect energy sources to the ‘grid’ and the grid itself, is often more controversial than the energy source itself. Transmission lines, Transmission tower (Pylons), distribution lines, telegraph poles, underground cables and offshore (underwater cables) are just some of the infrastructure used to transport and distribute energy.

Not much has changed with the majority of energy transportation since the 1920s. The first ‘Pylon’ in the UK was constructed in 1928 and is still the main way of transferring large amounts of electricity – we think it’s time that changed.

Llinellau trawsyrru

Mae llinellau trawsyrru o foltedd uchel (235 ~ 400 KV) ac uwchlaw’r tir yn cael eu hongian gan fwyaf ar geblau trawsyrru (peilonau). Defnyddir y rhain i symud symiau mawr o ynni o un rhan o grid ynni’r DU i un arall, ac i gysylltu’r ffynhonnell pŵer â’r grid. Yng Nghymru, mae’r rhain yn cael eu hadeiladu gan y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rhain.

Llinellau dosbarthu

Mae llinellau dosbarthu o foltedd is (11 ~ 132 KV) ac yn cael eu hongian gan fwyaf o bolion telegraff (eithriad rhyfedd ar beilonau i groesi bylchau mawr, h.y. afonydd). Mae’r rhain yn dosbarthu pŵer o’r grid i gartrefi a busnesau ac, mewn dolen gaeedig, gallan nhw gysylltu ffynhonnell y pŵer â chartrefi a busnesau yn uniongyrchol. Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am geblau dosbarthu.

Dull Newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai eu polisi nhw yw claddu holl geblau ynni newydd yng Nghymru, lle bo’n bosib. Maen nhw hefyd wedi dweud y dylai unrhyw linellau ynni newydd ddilyn y llwybr gorau posib i fyd natur. Mae YDCW yn cefnogi safiad Llywodraeth Cymru yn gryf ac yn disgwyl y bydd datblygwyr yn dilyn y polisi hwn.

Ceir cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trawsyrru newydd drwy geblau o dan y môr sy’n croesi holl arfordir y DU. Byddai hyn yn galluogi ffordd gymharol hawdd, cyflym a chyfleus o adeiladu rhwydwaith trawsyrru newydd sy’n gwasanaethu’r DU gyfan ac yn cysylltu rhai o’r prosiectau gwynt ar y môr sy’n cael eu hargymell ar hyn o bryd yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon.