Hydro Power

Hydroelectricity is long proven at all scales and Wales has many sites both large and small.  It was possibly the very first renewable technology.

Potensial Anhysbys

Gellir defnyddio ynni dŵr i gynhyrchu a storio (dŵr wedi’i bwmpio) fel y ‘mynydd trydan’ yn Eryri. Yn Awstralia, mae’r llywodraeth yno yn buddsoddi biliynau i ddatblygu cam nesaf prosiect o’r enw Snowy Hydro yn y Snowy Mountains yn Ne Cymru Newydd. Mewn amgylchedd sy’n debyg i’n Cwm Elan ni, defnyddir cyfres ryng-gysylltiedig o argaeau i gynhyrchu Trydan Dŵr. Yn anffodus, nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynhyrchu ynni dŵr ar raddfa fawr yng Nghymru na fyddai’n golygu costau uchel a cholli tir.

Prosiectau ar raddfa fach

Mae’n bosibl y bydd modd datblygu cynlluniau bach, mewn lleoliadau gwledig, yn sensitif ond ni fyddent byth yn gynhyrchwyr trydan sylweddol, er y gallent weithredu fel systemau ‘dolen gaeedig’ bach ar gyfer ffermydd hunangynhaliol a diwydiannau gwledig ar raddfa fach.

Mewn egwyddor, mae YDCW yn gefnogol o gynlluniau hydro ond byddai angen asesu unrhyw ddatblygiad mawr yn ôl ei rinweddau.