Ffermio

Ffermio yw asgwrn cefn Cymru. Mae tirlun Cymru yn arw ac yn fwyaf addas ar gyfer ffermio mynydd a phori anifeiliaid – yn wahanol i nifer o rannau o’r DU lle mae’r tir yn dir âr gan fwyaf ac yn cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau. Mewn gwirionedd, mae 84% o Gymru wedi’i neilltuo i amaethyddiaeth.

Ond nid yw ffermio’n bodoli, ac ni all fodoli, ar ei ben ei hun. Mae wedi’i  ddisgrifio fel ‘drindod ddiwahân’ lle mae bwyd, y gymdeithas wledig a’r amgylchedd gwledig amaethyddol, yn anochel, yn dibynnu ar ei gilydd. Mae hynny’n fwy amlwg yn ucheldir Cymru nag yn unman arall.

Balchder mewn Ffermio

Mae’r balchder mewn ffermio yn cael ei fynegi yn hanes y tir, am ymdrechion unigolion, ar draws y cenedlaethau yn aml iawn, a’u heffaith wrth lunio a defnyddio adnoddau ar raddfa’r dirwedd. Mae llinach da byw sydd ag enwau lleol, a addaswyd i amodau tirwedd benodol a’i chymeriad, yn creu dimensiwn dyfnach.

Dulliau a ffasiynau lleol o ran ffiniau caeau sy’n adlewyrchu sut mae’r garreg leol wedi dod o’r ddaear ac ymateb i’r morthwyl. Llechweddau lle mae’r cerrig wedi’u clirio â llaw dros ganrifoedd gyda wal o’u cwmpas, ffosydd wedi’u hagor, eu cloddio, eu ffensio neu eu hamgáu i ffurfio caeau i’w tocio, eu pori, eu gadael o dro i dro, ac weithiau eu hadfer. Pos jig-so heb gynllun, ond â phatrwm, yn cydymffurfio â chorff y tir a grawn y defnyddiau wrth law.

Mae YDCW yn cefnogi ffermio ac yn gweithio gydag undebau ffermwyr i gefnogi atebion hirdymor sy’n eu galluogi nhw, eu teuluoedd a’u cymdogion i weithio gyda’r tir mewn ffordd gynaliadwy, gwerth chweil a phroffidiol.

Ceidwaid ein cefn gwlad

Ffermwyr yw ceidwaid cefn gwlad; maen nhw’n aml yn gwybod y ffordd orau i ofalu am y tir maen nhw’n ei ffermio. Byddwn yn ymgyrchu gyda llywodraethau i sicrhau bod ffermwyr, gan gynnwys ffermwyr tenant, yn gallu ffynnu a gweithio gyda’r tir i gynyddu bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gydag Undebau’r Ffermwyr, Farming for Nature a Chymdeithas y Ffermwyr Tenant i ddatblygu ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar beth mae ffermwyr ei angen.

Hedgerow workshops

CPRW strongly encourages the Welsh Government to include hedgerows, which are beneficial to both biodiversity and livestock alike, in the upcoming Agriculture Bill (2023), believing that they should be included in the percentage of wooded areas.

In conjunction with our partners such as Middle Marches and Wildlife Trusts around Wales, we run hedgerow workshops throughout the year highlighting different techniques and illustrating how they are beneficial to agriculture and nature.

A farm rich in biodiversity produces better results, producing healthy soils, natural defences against pests, and cross pollination of crops.

A small minority of farmers are not such good custodians of the countryside, as sadly seen from avoidable pollution incidents. CPRW will support firm enforcement of environmental protection laws in the interests of the majority of farmers who respect them and the wider public interest.