Ar ddiwedd mis Ionawr, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu amcanion ar gyfer deddf newydd i fynd i’r afael â bylchau atebolrwydd a rheolaeth mewn llywodraethu amgylcheddol o ganlyniad i adael yr Uneb Ewropeaidd. Felly, beth mae’n ei olygu a beth rydym yn disgwyl iddo ei gynnwys?
Cefndir
Ar gyfer cyfraith a llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru a’r DU, roedd goblygiadau sylweddol i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r amgylchedd yn fater datganoledig yng Nghymru, gydag ychydig eithriadau gan gynnwys niwclear, olew, nwy a glo, ond mae’r rhan fwyaf o gyfraith a pholisi amgylcheddol y DU yn deillio o’r UE. Roedd gan gyfraith a pholisi Ewropeaidd rôl ganolog yn y gwaith o reoleiddio a rheoli’r amgylchedd morol a daearol, gan gynnwys rheoleiddio cemegau, plaladdwyr, ansawdd aer a dŵr, diogelu ein hamgylchedd naturiol ac asesiadau effaith amgylcheddol.
Llywodraethu a chyfraith amgylchddol yr Uned Ewropeaidd
Nod cyffredinol polisi amgylcheddol Ewropeaidd yw cyflawni ‘lefel uchel o warchodaeth amgylcheddol’, ac mae cyfraith yr UE yn sicrhau bod gofynion amgylcheddol yn cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol. Mae asiantaethau amgylcheddol arbenigol fel yr Asiantaeth Cemegau Ewropeaidd ac Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd (EEA) yn cyflawni llawer o swyddogaethau megis darparu data amgylcheddol annibynnol, monitro a gwerthuso, dehongli’r gyfraith a chanllawiau ar weithredu.
Fel aelod o’r UE, roedd gan y DU fynediad i Lys Cyfiawnder Ewrop (CJEU), sy’n dehongli’r gyfraith, yn gorfodi’r gyfraith drwy achosion tor-cyfraith ac yn setlo anghydfodau cyfreithiol rhwng llywodraethau cenedlaethol a sefydliadau’r UE. Yn hollbwysig, mae pensaernïaeth llywodraethu amgylcheddol Ewropeaidd yn caniatáu i ddinasyddion, cwmnïau neu sefydliadau gymryd camau cyfreithiol yn erbyn sefydliad dros dorri cyfreithiau amgylcheddol. Mae ymchwil gan yr Athrofa ar gyfer Llywodraeth (Institute for Government) yn datgelu mai achosion amgylcheddol oedd fwyaf tebygol o weld y DU yn y Llys Ewropeaidd. Roedd gadael yr UE yn golygu na fyddai’r strwythurau a’r fframweithiau hyn bellach yn hygyrch nac yn berthnasol i’r DU, gan greu bwlch llywodraethu amgylcheddol sylweddol.
Goblygiadau i Gymru a’r Deyrnas Unedig
Er gwaethaf addo gwarchod a chynnal safonau amgylcheddol yn sgil Brexit yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i fynd i’r afael â hyn. O ganlyniad, Cymru yw’r olaf o wledydd y Deyrnas Unedig i gymryd y camau angenrheidiol i lenwi’r bwlch llywodraethu amgylcheddol. Fe wnaeth Llywodraeth y DU a’r Alban ddeddfu yn 2021, gan ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yr UE yn y gyfraith, a sefydlu cyrff llywodraethu amgylcheddol annibynnol gyda’r bwriad o ddisodli rôl graffu a gorfodi’r UE. Sefydlwyd Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (OEP) gan Lywodraeth y DU ac mae’n cwmpasu Lloegr, Gogledd Iwerddon a materion sydd heb gael eu datganoli ledled y DU, ac mae Safonau Amgylcheddol yr Alban (ESS) yn gweithredu yn yr Alban.
Ers ei sefydliad mae’r OEP wedi ystyried ystod eang o faterion megis effeithiolrwydd asesiadau amgylcheddol, a rheoleiddio gorlifoedd carthffosydd cyfun (CSOs), lle nododd fethiannau cydymffurfio posibl gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat. Ym mis Tachwedd 2023 lansiodd alwad am dystiolaeth ar Statws Amgylcheddol Da (GES) ar gyfer dyfroedd morol y DU.
Mae Safonau Amgylcheddol yr Alban wedi ystyried materion megis cydymffurfiaeth NatureScotl â’i ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, y drefn asesu effaith sy’n gysylltiedig â rheoli cynllunio/datblygu mewn perthynas ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, a sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni targedau newid hinsawdd.
Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim yng Nghymru
Sefydlodd Llywodraeth Cymru drefniadau llywodraethu amgylcheddol interim anstatudol yng Nghymru ar ôl diwedd cyfnod pontio Brexit. Crëwyd rôl Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (IEPAW) gyda chylch gwaith i oruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol a chynghori Gweinidogion Cymru. Ond yn wahanol i Swyddfa Diogelu yr Amgylchedd (OEP) a Safonau Amgylcheddol yr Alban (ESS) does gan yr Asesydd ddim pwerau i ymchwilio achosion o dorri cyfreithiau amgylcheddol. Cafodd Dr Nerys Llewelyn Jones ei phenodi i’r rôl.
Mae swyddogaethau’r Asesydd yn cynnwys mecanwaith i aelodau’r cyhoedd wneud cyflwyniadau ar weithrediad cyfraith amgylcheddol. Mae’r Asesydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol o’r gwaith a wnaed yn ogystal â chyhoeddiadau ar faterion penodol a gyflwynwyd i’w hystyried. Mae’r materion a ystyriwyd gan yr Asesydd o 2021-2023 yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, coedwigaeth a gwrychoedd, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), halogiad tir, gwastraff, a mynediad at wybodaeth amgylcheddol.
Deddfwriaeth cyfatebol i Gymru
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu amcanion ar gyfer Deddf llywodraethu amgylcheddol ar ddiwedd Ionawr 2024.
Bydd y ddeddf yn cynnwys:
Egwyddorion Amgylcheddol
Confensiwn Aarhus
Dylai Confensiwn Aarhus ar fynediad at wybodaeth, cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, a mynediad at gyfiawnder mewn materion amgylcheddol, gael ei fynegi yn y ddeddf.
Corff annibynnol llywodraethu amgycheddol i Gymru
Comisiwn yr amgylchedd, yn annibynnol wrth Lywodraeth Cymru, i oruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru. Swyddogaethau’r Comisiwn fydd derbyn ac ymateb i gwynion gan ddinasyddion yng Nghymru, ac i gynnal ymchwiliadau lle mae materion systemig wedi’u datgelu drwy ymchwil a chraffu. Bydd gan y corff bwerau i uwchgyfeirio materion lle bo angen er mwyn atal difrod amgylcheddol.
Cefnogaeth trawsbleidiol yn y Senedd
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd a’r gwrthbleidiau wedi galw am y ddeddf llywodraethu amgylcheddol ers tro, yn dynodi cefnogaeth trawsbleidiol.
Bydd cyhoeddiad y Papur Gwyn ar ddiwedd mis Ionawr yn dynodi dechrau’r broses ddeddfwriaethol.
Rydym yn disgwyl ymlaen at gyhoeddiad y Papur Gwyn a’r cyfnod ymgynghori. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i sichrau bod y Ddeddf yn cael ei basio cyn 2026, neu mae na bryder y bydd y cyfle yn cael ei golli.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy cysylltwch gyda l[email protected].
[instagram-feed feed=1]