Mae YDCW, Elusen Cefn Gwlad Cymru, wedi dweud bod adeiladu gorsaf ynni nwy newydd gan DRAX yng Nghwm Cynon yn enghraifft glir o ddiffyg meddwl cydgysylltiedig rhwng llywodraethau Cymru a’r DU.

Mae Hirwaun Power, is-gwmni i DRAX Energy, yn adeiladu gwaith pŵer nwy 299MW ar Stad Ddiwydiannol Hirwaun, ger pentref Rhigos yng Nghwm Cynon. Mae’r gwaith pŵer, sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio yn ystod cyfnodau o alw am drydan ar ei uchaf, yn gwrthdaro’n uniongyrchol â thargedau Llywodraeth Cymru (y dywedodd ddydd Llun ei bod ar y trywydd iawn i’w cyrraedd) i gael yr holl bŵer a gynhyrchir yng Nghymru i ddod o ynni adnewyddadwy gan 2035.

Ysgrifennodd YDCW at y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James AS, y llynedd i ofyn a oedd y datblygiad hwn yn cyd-fynd â’u targedau ac os nad oedd, iddo gael ei alw i mewn. Dywedodd y Gweinidog na wnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ond bod: “…it is the intent of Welsh Ministers to maintain a strong presumption against new fossil-fuelled power plant.”

Yn dilyn hyn, ysgrifennodd YDCW at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, a ddywedodd er bod y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU.

“Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid galw datblygiadau i mewn i’w hadolygu.

Dywed llefarydd ar ran YDCW, Ross Evans, fod “y ping-pong gwleidyddol hwn dros benderfyniadau ynni pwysig yn un enghraifft yn unig o ddiffyg agwedd gydgysylltiedig at bolisi ynni yn y DU.

“Mae’n amlwg bod angen rhywbeth fel gwaith pŵer nwy, ar gyfer pan nad yw’r haul yn tywynnu a’r gwynt ddim yn chwythu, ynghyd ag opsiynau eraill fel batris a niwclear newydd posib, ond yn syml iawn nid yw hyn yn cael ei gydnabod.

“Dyma enghraifft arall eto o ddiffyg agwedd gydgysylltiedig at bolisi ynni. Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo’r DU i gael pob cartref yn y DU yn cael ei bweru gan wynt ar y môr erbyn 2030, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn gyndyn o gynnwys hyn yn eu targedau ynni ac yn ymddangos yn benderfynol o ddiwydiannu ein cefn gwlad yn lle hynny.

“Mae solar ar y to yn ddewis amlwg arall sydd i bob golwg wedi’i anwybyddu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ysgrifennom yn ddiweddar at Weinidog Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd i ofyn am sefydlu cronfa fuddsoddi i ganiatáu i bob cartref gael solar to – byddai hyn nid yn unig o fudd uniongyrchol i’r aelwydydd, yn hytrach na rhai rhyngwladol, byddai hefyd yn lleihau’r pwysau ar y grid.

“Yr hyn sydd ei angen arnom gan ein llywodraethau, ar bob lefel, yw cynllun clir ac integredig sydd o fudd i bawb a’r blaned. Rydym yn annog y llywodraethau i roi mân wahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a’u datrys.” meddai Evans.

Nodiadau i olygyddion:

Yn amgaeëdig – llythyrau a anfonwyd, ac ymatebion a dderbyniwyd, at Weinidog Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a’r Ysgrifennydd Gwladol, a’u hymatebion. A llythyr wedi’i anfon at y Gweinidog dros Newid Hinsawdd yn gofyn am sefydlu cronfa fuddsoddi ar gyfer solar to.

Mae’r Llywodraeth DU yn cadarnhau y bydd gwynt ar y môr yn cynhyrchu mwy na digon o drydan i bweru pob cartref yn y wlad erbyn 2030.

https://www.gov.uk/government/news/new-plans-to-make-uk-world-leader-in-green-energy

Mae adroddiad Gridiau Ynni’r Dyfodol Cymru i’w weld yma:

https://www.llyw.cymru/gridiau-ynnir-dyfodol-i-gymru-few-adroddiadau

– Gellir dod o hyd i stori ein deiseb yma

https://cprw.org.uk/deiseb-ydcw-yn-ceisio-achub-cefn-gwlad/?lang=cy