Cyfarfod Cyngor YDCW De Cymru
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd cyfarfod Cyngor YDCW De Cymru yn cael ei gynnal:-
10.00 – 15.00. Drysau yn agor am 9.30yb
Dydd Sadwrn, 20 Ebrill
Canolfan y Priordy
Eglwys y Santes Fair
Y Fenni
Bydd Cadeirydd YDCW, Jonty Colchester, yn cadeirio busnes y cyngor, a bydd tri sgwrs yn ei ddilyn.
Yn y bore bydd sgwrs gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r amgylcheddwr Chris Baines. Yn y prynhawn bydd Colin Passmore yn rhoi sgwrs ar gystadleuaeth gwrychoedd a chodi waliau cerrig Sioe Llanddewi Nant Hodni ac yna sgwrs a thrafodaeth gan Christopher Baines, cadeirydd annibynnol Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y Grid Cenedlaethol a’r rheolydd ynni Ofgem.
Mae croeso i holl aelodau YDCW ymuno â ni. Bydd lluniaeth a chinio ar gael ond mae angen archebu ymlaen llaw.
Rhowch wybod i Carys os hoffech chi ginio erbyn dydd Iau 11 Ebrill 2024: [email protected]
Cost y lluniaeth yma fydd £8.50. Dewch ag arian parod ar y diwrnod!
[instagram-feed feed=1]