13.04.2023
Mae Ymgyrch Datblygu Cymru Wledig yn cefnogi lansiad ap newydd ar ffonau clyfar sy’n ceisio tynnu sylw at Marilyns Cymru a rhoi heriau i ddringwyr sy’n debyg i gyrraedd copaon y Munros yn yr Alban.
Mae ap ffôn newydd a wnaed gan y cerddwyr brwd Barry Smith a Doug Colton, y ddau yn aelodau o’r Relative Hills Society, yn ceisio rhoi statws uwch i’r Marilyns o Gymru yn y maes mynydda a thaflu rhywfaint o oleuni ar rai o fryniau a mynyddoedd llai cyfarwydd Cymru.
Marilyn yw’r term sy’n cael ei roi ar fryniau a mynyddoedd sydd ag uchder cymharol o (faint rydych chi’n ei ddringo o’r gwaelod i’r copa) o leiaf 150 metr (492 troedfedd), waeth beth fo’r uchder absoliwt neu rinwedd arall.
Mae Barry Smith, sydd wedi cyfrannu ar yr ap ac sy’n gerddwr mynyddoedd brwd, yn credu y dylid rhoi statws tebyg i Marilyns Cymru â Munros yr Alban:
“Ar ôl cerdded mynyddoedd ledled y DU, ac wedi cyrraedd copaon y Munros yn yr Alban, teimlem y dylai fod ffordd well o farchnata’r bryniau a’r mynyddoedd llai cyfarwydd a helpu mynyddwyr i archwilio’r perlau llai cyfarwydd yn ogystal â’r mannau sy’n enwog ar draws y byd.” dywedodd Smith.
Dywedodd Doug Colton, a gynlluniodd a chodio’r ap, ei fod yn gobeithio y bydd yr ap newydd hwn yn gosod heriau newydd i lawer yn y gymuned cerdded mynyddoedd:
“Mae pawb yn gwybod am Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen Y Fan, ond mae yna dros 150 o Marylins ar draws Cymru, sydd yr un mor odidog i’w dringo neu’r un mor heriol a hyd yn oed yn fwy hygyrch. Mae angen i ni farchnata rhai o’n llwybrau cerdded ar y bryniau a’r mynyddoedd yn well!” dywedodd Doug.
Mae’r ap, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn fyw ac ar gael ar ffonau iOS neu Android (o’r App Store a’r Play Store).
Dywedodd llefarydd ar ran YDCW: Elusen Cefn Gwlad Cymru, Ross Evans, fod yr elusen yn fwy na hapus i gefnogi datblygiad yr ap:
“Mae hon yn fenter wych i hyrwyddo opsiynau i fynd allan i gefn gwlad godidog Cymru. Bydd pobl ledled Cymru yn gwybod am fryn neu fynydd lleol sy’n arbennig iddyn nhw ac sydd angen cael ei brofi gan eraill!
Bydd yr ap hwn yn galluogi mwy o bobl i ddod o hyd i’r trysorau cudd hyn yn ogystal ag archwilio’n ehangach, felly lawrlwythwch yr ap a dechreuwch ymweld â’r Marilyns!” dywedodd Evans.
Mae’r ap yn cynnwys disgrifiadau o’r Marilyns, cyfarwyddiadau ar gyfer y lle gorau i barcio ar gyfer eich taith gerdded, llwybrau sy’n cael eu ffafrio ac mae’r ap yn cynnwys blwch ticio er mwyn i chi gadw cofnod o’ch teithiau cerdded a rhannu’r cyfanswm gydag eraill.
[instagram-feed feed=1]