Cyn sefydlu’r Parciau Cenedlaethol, roedd rhai o'r tirweddau mwyaf cain yn y DU yn feysydd chwarae i’r breintiedig. Nid oedd gan bobl gyffredin lawer o fynediad i fannau gwyrdd a natur ogoneddus. Yn hytrach, cawsant eu cadw allan gan ffensys ac arwyddion yn datgan EIDDO PREIFAT.
O 1930 i 1952, pan ddaeth ardal enfawr o Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol dynodedig cyntaf Cymru, bu YDCW yn ymgyrchu’n ddiflino i greu Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.
Diolch i ymroddiad aelodau YDCW, heddiw mae yna 15 o Barciau Cenedlaethol yn y DU gan gynnwys tri yng Nghymru. Mae 400,000 o bobl yn cerdded i fyny'r Wyddfa bob blwyddyn ac mae'r Parciau Cenedlaethol yn cwmpasu 20% o'r wlad. Mae mannau gwych hyn yn rhoi cyfle i bobl gyffredin fwynhau heicio, rhedeg, nofio gwyllt a gwylio bywyd gwyllt yn yr awyr glas clir.
Heddiw mae ein gwaith i ddiogelu’r mannau arbennig ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol hyn yn parhau. Rydym yn aelodau sefydlol o'r Gynghrair dros Dirluniau Dynodedig Cymru (Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru gynt), ac yn cael ein cynrychioli ar nifer o Bartneriaethau AHNE.
Mae Parciau Cenedlaethol yn fannau anhygoel i bawb fwynhau gogoniant cefn gwlad Cymru. Mae’n rhaid i ni eu diogelu am 70 mlynedd arall a thu hwnt.
Adnoddau am Ddim
Rydym yn cefnogi datblygiad sydd wedi'i ddylunio'n dda sy'n cydweddu'n dda â'i amgylchoedd. Bydd ein taflenni adnoddau yn eich helpu i ddeall cynllunio, ymateb i geisiadau, a gwrthwynebu datblygiadau nad ydynt yn briodol.
Ewch i’n tudalen adnoddau
Ymunwch â ni heddiw
A fyddwch chi’n sefyll i fyny dros gefn gwlad Cymru?
Mae ein hannwyl gefn gwlad yn wynebu bygythiadau ofnadwy.
Trwy ymuno ag YDCW heddiw byddwch chi’n dod yn rhan o fudiad i warchod harddwch cefn gwlad Cymru a chreu cefn gwlad sy'n gweithio i bawb.
Ymunwch â ni
Beth sy’n digwydd yn eich ardal?
Gyda 13 cangen YDCW ledled Cymru, mae yna siŵr o fod rhywbeth cyffrous yn eich ardal i chi gymryd rhan ynddo. Mae ein canghennau’n trefnu digwyddiadau lleol, yn ymgyrchu yn erbyn cynllunio ansensitif ac yn codi arian ar gyfer ein gwaith ehangach. Ymunwch â’ch cangen agosaf i gefnogi’ch cymuned leol ac amddiffyn eich tirweddau unigryw.