Pam ymuno ag YDCW?

Mae cefn gwlad a ffordd o fyw Cymru yn wynebu sawl her; o newid hinsawdd, argyfwng bioamrywiaeth, afonydd glân, pobl ifanc yn gadael cymunedau gwledig, seilwaith trafnidiaeth gwael a thai fforddiadwy, mae angen llais cryf ar Gymru nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.

Drwy ymuno ag YDCW heddiw gallwch gefnogi a chyfrannu at ein gwaith i amddiffyn a hyrwyddo cymunedau gwledig cydlynol a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Gall cyfleoedd gwirfoddoli gynnwys rolau fel:

  • Dylanwadwyr – helpu i lunio polisi ac ysgogi newid er lles ein cefn gwlad
  • Pobl greadigol  – trwy’r celfyddydau gallwn gyfathrebu trwy gynnwys ysbrydoledig o fanteision cefn gwlad i’n llesiant ein pobl a’n planed
  • Gwneuthurwyr – trefnu digwyddiadau cymunedol, sesiynau codi sbwriel, codwyr arian codi waliau cerrig naturiol

I ddysgu mwy neu ddod yn aelod cysylltwch â: [email protected]

 

Aelodaeth unigol

Cyd-aelodaeth

Aelodaeth oes

Aelodaeth gorfforaethol

Aelodaeth ysgolion

Aelodaeth cynghorau cymunedol

Pan fyddwch yn dod yn aelod, byddwch yn derbyn:

  • Cylchgrawn Hiraeth
  • E-Fwletin misol yn amlygu’r materion cyfredol sy’n effeithio
    cefn gwlad Cymr

Aelodaeth ryngwladol

Os ydych yn ymuno o dramor, dewiswch yr opsiwn pris rramor, sy’n cynnwys £10 ychwanegol ar gyfer postio blynyddol

Adnewyddu

I adnewyddu neu ymuno dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd, ffoniwch ni ar 01938 552525 (rhwng 10yb a 2yp dydd Llun i ddydd Iau).