Mae ein hannwyl gefn gwlad yn wynebu bygythiadau ofnadwy. Mae datblygu sy’n rhemp, anialdir sy’n diflannu a diwydiannu ymdaenol yn bygwth dinistrio’r Gymru rydym yn ei hadnabod ac yn ei charu.
Rydym yn dibynnu ar roddion oddi wrth ein haelodau a chefnogwyr i sicrhau y gallwn barhau i amddiffyn ac anwylo ein cefn gwlad yng Nghymru. Mae ein cefnogwyr hael wedi talu am heriau cyfreithiol i gynlluniau datblygu, ac ariannu prosiectau cyffrous fel gwobrau Cymru Wledig. Hefyd mae rhoddion a rhoddion etifeddiaeth yn hanfodol i’n gwaith craidd. Mae rhoddion oddi wrth bobl fel chi’n galluogi ni i adfywio cymunedau gwledig, dylanwadu ar bolisi ar bob lefel, ac ymgyrchu ar gyfer amddiffyn ein tirweddau a gofalu amdanynt.
Bydd eich rhodd heddiw yn helpu i ddiogelu cefn gwlad Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf a thu hwnt.
Eich Etifeddiaeth
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofio YDCW yn eich Ewyllys, edrychwch ar ein tudalen Etifeddiaeth i gael mwy o wybodaeth.
Cefnogaeth Sefydliadau a Chorfforaethau
Rydym yn croesawu rhoddion oddi wrth ymddiriedolaethau, sefydliadau a noddwyr corfforaethol y mae eu cymorth hael hefyd yn galluogi YDCW i gefnogi cymunedau gwledig a dathlu bywyd gwledig. Os hoffai eich sefydliad noddi neu gefnogi YDCW, ffoniwch ni ar 01938 552525.