Ers 1928, mae YDCW wedi bod yn sefyll i fyny dros bobl a'r lleoedd Cymru wledig ac yn diogelu ein tirweddau unigryw. O amddiffyn mannau gwyllt rhag datblygiad dinistriol i greu cymunedau gwledig cynaliadwy, rydym yn angerddol ynglŷn â chreu cefn gwlad sy'n gweithio i bawb.
Ni yw’r unig sefydliad annibynnol sy’n sefyll i fyny dros Gymru wledig, ac mae ein haelodau yn y gymuned yn dwyn penderfynwyr i gyfrif ac yn sicrhau bod pobl leol yn cael dweud eu dweud. Bob dydd byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod harddwch eithriadol ein gwlad yn cael ei diogelu i’r genhedlaeth nesaf - a thu hwnt.
A fyddwch chi’n sefyll i fyny dros gefn gwlad Cymru?
Mae ein hannwyl gefn gwlad yn wynebu bygythiadau ofnadwy.
Trwy ymuno ag YDCW heddiw byddwch chi’n dod yn rhan o fudiad i warchod harddwch cefn gwlad Cymru a chreu cefn gwlad sy'n gweithio i bawb.
Ymunwch â ni
Gyda 13 cangen YDCW ledled Cymru, mae yna siŵr o fod rhywbeth cyffrous yn eich ardal i chi gymryd rhan ynddo. Mae ein canghennau’n trefnu digwyddiadau lleol, yn ymgyrchu yn erbyn cynllunio ansensitif ac yn codi arian ar gyfer ein gwaith ehangach. Ymunwch â’ch cangen agosaf i gefnogi’ch cymuned leol ac amddiffyn eich tirweddau unigryw.